Bechadur gwel yn hongian Dy Brynwr ar y groes! O clyw riddfanau'i enaid Yn nyfnder angau loes! Mae'n bywyd yn ei glwyfau; Mae ei och'neidiau drud Yn floedd yn nghlustiau'r Nefoedd Am faddeu beiau'r byd. Agorodd ddrws i'r caethion I ddod o'r cystudd mawr; Â'i werthfawr waed fe dalodd Eu dyled oll i lawr: Yn ymchwydd yr Iorddonen, Ac yn y farn a ddaw, Diangol yn y diwedd A fyddaf yn ei law.Morgan Rhys 1716-79 - - - - - Bechadur, gwel yr Iesu Yn hongian ar y groes, Clyw ddwys ruddfanau'i enaid Dan ddyfnder angeu loes: O! gwrandaw ar ei ruddfan - Mae pob ochenaid ddrud Yn floedd yn nghlustiau'r nefoedd Am faddeu beiau'r byd. Fe ddaeth i wella'n harcholl Trwy gym'ryd clwyf ei Hun; Etifedd nef yn marw I wella euog ddyn: Yn sugno'n llwyr y gwenwyn A rôdd y sarph i ni; A thrwy y gwenwyn hwnw Yn marw ar Galfari. Ni fuasai genyf obaith Am ddim ond fflamau syth, Y pryf nad yw yn marw, A'r t'wyllwch dudew byth, Oni busai'i Hwn a, hoeliwyd Ar fynydd Calfari, O'i fawr anfeidrol gariad I gofio am danaf fi.1 : Morgan Rhys 1716-79 2-3: William Williams 1717-91
Tôn [7676D]: gwelir: Agorodd ddrws i'r caethion Angylion doent yn gysson Fy Nhad fy addfwyn Iesu Ni fuasai gennyf obaith O enw ardderchocaf |
Sinner see hanging Thy Redeemer on the cross! O hear the groans of his soul In the depths of the death throes! There is life in his wounds; His dear moans are Shouting in the ears of Heaven For forgiveness of the world's faults. The doors opened for the captives To come from the great affliction; With his precious blood he paid All their debt down: In the swelling of the Jordan, And in the judgment to come, Freedom in the end Will be in his hand. - - - - - Sinner, see Jesus Hanging on the cross, Hear the intense groans of his soul Under the depth of the throes of death: O listen to his groan - Every costly sigh is A shout in the ears of heaven For forgiveness for the world's faults. He came to hear our injury Through taking the wound Himself; The Heir of heaven dying To heal guilty man: Sucking out completely the poison Which the serpent gave to us; And through that poison Dying on Calvary. I would have had no hope For anything but immediate flames, The worm that does not die, And the pitch-black darkness forever, Unless He, who was crucified On mount Calvary, had Of his great, immeasurable love Remembered me.tr. 2010,17 Richard B Gillion |
|